Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Dydd Mawrth 18 Mehefin a dydd Mercher 19 Mehefin 2013

Dydd Mawrth 25 Mehefin a dydd Mercher 26 Mehefin 2013

Dydd Mawrth 2 Gorffennaf a dydd Mercher 3 Gorffennaf 2013

***********************************************************************

 

Dydd Mawrth 18 Mehefin 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Strategaeth Forol a Physgodfeydd Cymru (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Darparu Gwasanaethau Addysg yng Nghymru yn y Dyfodol (30 munud)

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Yr Adolygiad Annibynnol o Argaeledd Cyllid ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru: Adroddiad Cyntaf (30 munud)

·         Dadl Cyfnod 3 ar Fil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.44 (90 munud)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.  Os derbynnir y cynnig:

Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.47

 

 

Dydd Mercher 19 Mehefin 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Meysydd Carafanau Gwyliau (Cymru) (Darren Millar) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer - Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 25 Mehefin 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Anghenion Dysgu Ychwanegol (30 munud)

·         Dadl: Y Papur Gwyn ynghylch Tai – Y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu’r Papur Gwyn (60 munud)

·         Dadl: Gofal Sylfaenol a’r Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal (60 munud)

 

Dydd Mercher 26 Mehefin 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Dadl ar Adroddiad 03-13 y Pwyllgor Safonau i’r Cynulliad ar Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Dadl Fer - Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) (30 munud)

 

 

Dydd Mawrth 2 Gorffennaf 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cyflwyno’r Bil Addysg (Cymru) (60 munud)

·         Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Diwygiadau i Ddeddf Addysg 1996) (Cymru) 2013 (15 munud)

·         Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2013 (15 munud)

·         Dadl Cyfnod 3 ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.44 (90 munud)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.  Os derbynnir y cynnig:

Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo’r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.44.

 

Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)

·         Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Drafnidiaeth Gyhoeddus Integredig yng Nghymru (60 munud)

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Horizon 2020: Cyfnod 2 (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Dadl Fer – Nick Ramsay (Mynwy) (30 munud)